2 Samuel 22

Cân o fawl i'r Arglwydd

(Salm 18)

1Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r Arglwydd ar ôl i'r Arglwydd ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul: a

2Mae'r Arglwydd fel craig i mi,
yn gastell ac yn achubwr.
3Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;
yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
Mae'n fy achub i rhag trais.
4Gelwais ar yr Arglwydd sy'n haeddu ei foli,
ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
5Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth;
roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
6Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas,
a maglau marwolaeth o'm blaen.
7Gelwais ar yr Arglwydd o ganol fy helynt,
a gweiddi ar fy Nuw.
Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;
gwrandawodd arna i'n galw.
8Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.
Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynu
ac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
9Daeth mwg allan o'i ffroenau,
a thân dinistriol o'i geg;
roedd marwor yn tasgu ohono.
10Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.
Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
11Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;
a codi ar adenydd y gwynt.
12Gwisgodd dywyllwch drosto –
cymylau duon stormus;
a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr
yn ffau o'i gwmpas.
13Roedd golau disglair o'i flaen
a'r mellt fel marwor tanllyd.
14Yna taranodd yr Arglwydd o'r awyr –
sŵn llais y Goruchaf yn galw.
15Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;
roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
16Daeth gwely'r môr i'r golwg;
ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth
wrth i'r Arglwydd ruo,
a chwythu anadl o'i ffroenau.
17Estynnodd i lawr o'r uchelder
a gafael ynof fi;
tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
18Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig –
y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
19Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,
ond dyma'r Arglwydd yn fy helpu i.
20Daeth â fi allan i ryddid!
Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21Mae'r Arglwydd wedi bod yn deg â mi.
Dw i wedi byw'n gyfiawn;
mae fy nwylo'n lân,
ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22Do, dw i wedi dilyn yr Arglwydd yn ffyddlon,
heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;
dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
24Dw i wedi bod yn ddi-fai
ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
25Mae'r Arglwydd wedi rhoi fy ngwobr i mi.
Dw i wedi byw'n gyfiawn,
ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
26Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,
ac yn deg â'r rhai di-euog.
27Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,
ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
28Ti'n achub pobl sy'n dioddef,
ond yn torri crib y rhai balch.
29Ie, ti ydy fy lamp i, o Arglwydd,
ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
30Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;
gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;
mae'r Arglwydd yn dweud beth sy'n wir.
Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32Oes duw arall ond yr Arglwydd?
Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –
mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
34Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;
fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
35Dysgodd fi sut i ymladd –
dw i'n gallu plygu bwa o bres!
36Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.
Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
37Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen
a wnes i ddim baglu.
38Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;
wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
39Bydda i'n eu dinistrio a'u taro,
nes byddan nhw'n methu codi;
bydda i'n eu sathru nhw dan draed.
40Ti roddodd y nerth i mi ymladd;
ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
41Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.
Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
42Roedden nhw'n edrych am help,
ond doedd neb i'w hachub!
Roedden nhw'n troi at yr Arglwydd hyd yn oed!
Ond wnaeth e ddim ateb.
43Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr;
a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.
44Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.
Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.
Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw
yn derbyn fy awdurdod.
45Mae estroniaid yn crynu o'm blaen.
Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!
46Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,
ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
47Ydy, mae'r Arglwydd yn fyw!
Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!
Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
48Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,
a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
49Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,
a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.
Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
50Felly, O Arglwydd,
bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd
ac yn canu mawl i dy enw:
51Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin –
un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!
Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog –
i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Copyright information for CYM